Llenyddiaeth mewn Theori: Cynhadledd Undydd

23.10.04

Tudur Hallam yn derbyn y gwahoddiad i'r gynhadledd

Y mae Tudur Hallam, darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru,
Abertawe wedi cytuno rhoi papur a chyflwyno pennod i'r gyfrol,
'Llenyddiaeth mewn Theori'.

Ei bwnc fydd 'Cwmwl Haf' Waldo Williams, o safbwynt y darllenydd.

21.10.04

Llofruddiaeth ar yr Orient Express: T.H. Parry-Williams ac Edward Said

Teitl papur Dr Angharad Price fydd 'Llofruddiaeth ar yr Orient Express:
T.H. Parry-Williams ac Edward Said.'

13.10.04

Papur Llion Pryderi Roberts: 'Dwyn ei genedl dan ganu': Llafaredd a pherfformiad ym meirniadaethau eisteddfodol John Morris–Jones

'Dwyn ei genedl dan ganu': Llafaredd a pherfformiad ym meirniadaethau eisteddfodol John Morris–Jones.

Fy mwriad yn y papur yw cymryd golwg ar gorff o feirniadaethau JMJ ar gystadleuaeth y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau'r ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar drafod llenyddiaeth sydd bellach yn llenyddiaeth 'ysgrifenedig' yng nghyd-destun theorïau llafaredd a pherfformio (gan mai testunau oeddynt a berfformiwyd ar lafar yn wreiddiol).

Llion Pryderi Roberts
Cynorthwy-ydd Ymchwil
Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Caerdydd

2.10.04

Dr Dylan Foster Evans yn derbyn gwahoddiad i draddodi darlith

Y mae Dr Dylan Foster Evans, Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi cytuno rhoi papur yn y gynhadledd. Bydd yn trafod y cywyddwyr o safbwynt theorïau ôl-drefedigaethol.