Llenyddiaeth mewn Theori: Cynhadledd Undydd

28.10.05

Cyfrol Newydd yn 2006

1. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd, 2006)

  • Y mae LlenyddiaethmewnTheori bellach o dan ofal Gwasg Prifysgol Cymru, ac fe'i cyhoeddir fel
    rhan o gyfres 'Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig' yn 2006.

  • Cafwyd adroddiad ffafriol dros ben i'r gyfrol gan y darllenydd a gellir darllen ei gynnwys drwy ymweld â www.owen-thomas.net

  • Ymhlith
    y cyfranwyr i'r gyfrol hon y mae Angharad Price, Eleri James, Tudur
    Hallam, Dylan Foster Evans, Simon Brooks, Llion Pryderi Roberts ac Owen
    Thomas.

27.9.05

Dyddiad Cynhadledd Undydd Llenyddiaeth mewn Theori 2006

Y dyddiad ar gyfer y gynhadledd nesaf fydd 25 MAWRTH 2006 ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

3.4.05

Cynhadledd Undydd 2005

Llawer o ddiolch i bawb a fynychodd y gynhadledd lwyddiannus iawn, ddydd Sadwrn, 2 Ebrill 2005. Edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi'r gyfrol 'Llenyddiaeth mewn Theori' ac at y gynhadledd undydd y flwyddyn nesaf.

Pob hwyl,

Owen Thomas

21.3.05

Aled Llion Jones

Y mae Aled Llion Jones wedi cytuno cyflwyno papur ar yr hengerdd
ddamcaniaethol yn y gynhadledd.

16.3.05

Yr Athro John Rowlands a Robert Rhys

Y mae'n dda gennyf ddweud fod yr Athro John Rowlands, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor wedi cytuno cadeirio sesiwn y prynhawn yn y gynhadledd ac y mae Robert Rhys, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe wedi cytuno cadeirio'r sesiwn cyn cinio.

Owen Thomas

15.3.05

Dr Dylan Foster Evans

Gwaetha'r modd bydd Dr Dylan Foster Evans yn America yn ystod y
gynhadledd hon ond y mae wedi addo creu tâp fideo a fydd yn caniatáu
inni ei weld yn traddodi ei bapur ddydd Sadwrn, 2 Ebrill.

Owen Thomas

20.12.04

Llety ar gael

Y mae llety ar gael ar gyfer cynadleddwyr ar nos Wener, 1 Ebrill 2005.

Am ragor o fanylion holwch Ann Jones: 01570 424 826

Papur Dr Simon Brooks

Rwyf eisiau craffu ar syniad y theorïwr Ffrengig, Michel Foucault, o episteme.

Dadleua Foucault nad yw gwybodaeth yn gynnyrch di-duedd a naturiol. Mae pob cyfnod a chymdeithas yn creu rheolau anysgrifenedig sy’n diffinio pa fath o wybodaeth a grëir ac a ganiateir.

Ond pwy sy’n pennu’r math o wybodaeth a ganiateir mewn trafodaethau syniadol yng Nghymru? Ai’r Cymry eu hunain? Ynteu feddylwyr o Loegr?

Bydd y papur yn cynnwys astudiaeth o drafodaethau diweddar yn ymwneud â hil, hiliaeth a’r Gymraeg.