Llenyddiaeth mewn Theori: Cynhadledd Undydd

24.9.04

Lleoliad: Hen Neuadd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan

Lleoliad y gynhadledd undydd fydd Hen Neuadd y Coleg, Prifysgol Cymru,
Llanbedr Pont Steffan.

22.9.04

Dr Jerry Hunter

Y mae Dr Jerry Hunter, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor wedi cynnig rhoi papur ar wedd ar fateroliaeth yn y gynhadledd.

21.9.04

Llion Pryderi Roberts

Y mae Llion Pryderi Roberts, sy'n gweithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi cytuno rhoi papur yn y gynhadledd.

19.9.04

Eleri James

Y mae Eleri James, sydd yn ymchwilio i waith theoretig Bobi Jones, wedi cytuno rhoi papur yn y gynhadledd.

Dr Angharad Price

Y mae Dr Angharad Price, Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi cytuno rhoi papur yn y gynhadledd.

Croeso i 'Llenyddiaeth mewn Theori'

Yma ceir manylion cynhadledd 'Llenyddiaeth mewn Theori' a gynhelir yn Llambed ar 2 Ebrill 2005.